Support and Development Worker Wales
Department: Shine Wales
Reports to: Wales Service Manager
Salary: £27,776 pro rata
Hours: 12 hours a week, (over 2 days, to be agreed)
Location: Home based – covering Northeast Wales and surrounding area with flexibility to travel across Wales as required.
We are looking for someone outward facing, innovative, enthusiastic, organised, confident and strong communicator who can help develop our support for Shine members in Wales following our recent National Lottery Community Fund award.
Purpose of Job
To deliver a high-quality service to and facilitate opportunities for individuals with spina bifida and/or hydrocephalus and their families/carers through Shine membership. To empower and enable members affected by the conditions to lead healthy and happy lives through greater independence, better condition management and by creating links to the Shine community across Wales.
Core role
- To provide information to individuals, families, carers affected by Spina Bifida and/or Hydrocephalus.
- To provide advice, support and guidance to enable people with Spina Bifida and/or Hydrocephalus to access the correct benefits to become financially stable, the right services to improve their health and well-being, and to better co-ordinate their support and independence through a variety of methods.
- To refer individual members and/or their families/carers to the most appropriate source of expertise and support in Shine’s Health team and other designated leads within the organisation, or signpost to external agencies as appropriate.
- To develop age-specific groups and peer support networks which will provide opportunities for people with Spina Bifida and/or Hydrocephalus to connect and interact, enabling social opportunities and to share experiences, support and learn from each other.
- To work with and develop opportunities for Shine volunteers.
- To contribute to the delivery of regional and national programme of events to Shine’s membership, based on identified need and interests, geographical location and age. These will be face to face and virtual events.
- To provide information to professionals working with those individuals and families affected by Spina Bifida and/or Hydrocephalus.
- To raise greater awareness of Spina Bifida and/or Hydrocephalus amongst professionals, external organisations and the general public through presentations, training and attendance at professional events.
- To actively promote membership of Shine to people with the relevant conditions.
- To keep clear and accurate records for monitoring and evaluation using our Salesforce database system.
- To work with other service, fundraising, marketing, trust and foundations colleagues and Shine’s membership to identify and seize potential fundraising opportunities for long-term sustainability of the work.
- To prepare and keep up to date a directory of relevant contacts across the area and to share relevant information with colleagues.
- To undertake administrative duties as required of the role.
- Any other duties in line with the job role.
Essential criteria
- Ability to travel across the designated area
- Flexible working hours. This may include some evenings and weekends
- Ability to work from home
- The ability to be motivated and work on your own initiative with lone working from home, whilst also travelling across the area and Region to be part of the wider dispersed team.
- Enhanced DBS will be required
- Full UK driving licence and access to car
- Experience and qualifications – essential
- At least two years’ recent experience of delivering support and advice services
- Experience of working with people of all ages with disabilities
- At least two years’ experience of advising on one or more of the following:
health and wellbeing; independence; benefits; education and learning; employment; developing friendships and social skills; reducing isolation; social care; housing
- Experience of developing and delivering opportunities to enable and empower people with disabilities to achieve their goals towards independence.
Knowledge, skills and abilities – essential
- Understanding of spina bifida and hydrocephalus and of the issues and challenges faced by people living with these conditions.
- Ability to work with people individually and to facilitate and run group activities and event.
- Excellent communication skills both verbally and written.IT literate with a good knowledge of computer systems and programmes (e.g. Word, Excel, PowerPoint) and use of databases.
- A non-judgemental approach to working with people.
Experience and Qualifications – desirable
- Hold a qualification in a health, nursing, social care or disability related field.
- Experience of working in the third sector in a paid or unpaid capacity.
Knowledge, skills and abilities – desirable
- Understanding of the role peer support plays in enhancing services and support to members.
- An awareness and understanding of how to use social media and its effectiveness in reducing social isolation.
In return, Shine will offer you:
- A competitive salary of £27,776 (Pro rata)
- 3% pension contribution
- 25 days holiday plus bank holidays + additional discretionary leave between Christmas and New Year (pro-rata for part-time hours)
- Support to learn and develop
- Opportunity to purchase additional annual leave
- Broadband allowance
- Additional annual leave due to length of service
Shine is a Disability Confident employer and will offer guaranteed interviews if a disabled applicant meets the minimum criteria for the job.
To apply please submit your CV and supporting statement*, which should outline your interest and explain how you meet the role criteria to recruitment@shinecharity.org.uk. *Please note applications without a supporting statement will not be accepted.
Closing date: 27th November
Interviews: 4th December - virtual
Please note: we reserve the right to interview suitable candidates before the closing date, therefore we encourage applications as soon as possible.
Swyddog Cymorth a Datblygu Cymru
Adran: Shine Cymru
Yn adrodd i: Rheolwr Gwasanaeth Cymru
Cyflog: £27,776 pro rata
Oriau: 12 awr yr wythnos, (dros 2 ddiwrnod, i'w gytuno)
Lleoliad: Gweithio gartref - yn ardal Gogledd-ddwyrain Cymru a'r ardal gyfagos gyda hyblygrwydd i deithio ledled Cymru fel sy'n ofynnol
Rydym yn chwilio am rywun eangfrydig, arloesol, brwdfrydig, trefnus, hyderus a rhywun sy'n cyfathrebu'n gryf a all helpu i ddatblygu ein cymorth i aelodau Shine yng Nghymru yn dilyn derbyn arian yn ddiweddar o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Diben y swydd
Cyflwyno gwasanaeth o'r radd flaenaf a hwyluso cyfleoedd i unigolion â spina bifida a/neu hydroceffalws a'u teuluoedd/gofalwyr drwy fod yn aelodau o Shine. Grymuso a galluogi aelodau y mae'r cyflyrau yn effeithio arnynt i fyw bywydau iach a hapus drwy gael mwy o annibyniaeth, rheoli cyflyrau yn well a chreu cysylltiadau â chymuned Shine ledled Cymru.
Rôl graidd
- Darparu gwybodaeth i unigolion, teuluoedd, a gofalwyr y mae Spina Bifida a/neu Hydroceffalws yn effeithio arnynt.
- Rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i alluogi pobl â Spina Bifida a/neu Hydroceffalws i gael y budd-daliadau cywir i ddod yn sefydlog yn ariannol, y gwasanaethau cywir i wella eu hiechyd a'u llesiant, ac i gydgysylltu eu cymorth a'u hannibyniaeth yn well drwy amrywiaeth o ddulliau.
- Cyfeirio aelodau unigol a/neu eu teuluoedd/gofalwyr at y ffynhonnell o arbenigedd a chymorth mwyaf priodol yn nhîm iechyd Shine ac arweinwyr dynodedig eraill o fewn y sefydliad, neu eu cyfeirio at asiantaethau allanol fel sy'n briodol.
- Datblygu grwpiau sy'n benodol i oedran a rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl â Spina Bifida a/neu Hydroceffalws gysylltu a rhyngweithio, gan alluogi cyfleoedd cymdeithasol a rhannu profiadau, cefnogi a dysgu gan ei gilydd.
- Gweithio gyda gwirfoddolwyr Shine a datblygu cyfleoedd ar eu cyfer.
- Cyfrannu at ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol i aelodau Shine, yn seiliedig ar anghenion a dddordebau a nodwyd, lleoliad daearyddol ac oedran. Bydd y rhain yn ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir.
- Rhoi gwybodaeth i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r unigolion a'r teuluoedd hynny y mae Spina Bifida a/neu Hydroceffalws yn effeithio arnynt.
- Codi mwy o ymwybyddiaetj o Spina Bifida a/neu Hydroceffalws ymysg gweithwyr proffesiynol, sefydliadau allanol a'r cyhoedd drwy gyflwyniadau, hyfforddiant a phresenoldeb mewn digwyddiadau proffesiynol.
- Hyrwyddo aelodaeth Shine i bobl â chyflyrau perthnasol.
- Cadw cofnodion clir a chywir ar gyfer monitro a gwerthuso drwy ddefnyddio ein system cronfa ddata Salesforce.
- Gweithio gyda chydweithwyr gwasanaethau, codi arian, marchnata, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill ac aelodau Shine i nodi a manteisio ar gyfleoedd posibl i godi arian ar gyfer cynnal y gwaith yn yr hirdymor.
- Paratoi a chadw cyfeirlyfr wedi'i ddiweddaru o gysylltiadau perthnasol ledled yr ardal a rhannu gwybodaeth berthnasol gyda chydweithwyr.
- Cyflawni dyletswyddau gweinyddol fel sy'n ofynnol gan y rôl.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â'r rôl.
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled yr ardal ddynodedig.
- Oriau gwaith hyblyg. Gall hyn gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau.
- Y gallu i weithio o gartref.
- Y gallu i fod llawn cymhelliant ac i weithio ar eich liwt eich hun gartref, gan deithio ledled yr ardal a'r Rhanbarth hefyd, er mwyn bod yn rhan o'r tîm gwasgaredig ehangach, ar yr un pryd.
- Bydd angen DBS uwch
- Trwydded yrru lawn y DU a'r defnydd o gar
Profiad a chymwysterau - hanfodol
- O leiaf dwy flynedd o brofiad diweddar o ddarparu gwasanaethau cymorth a chyngor
- Profiad o weithio gyda phobl o bob oedran ag anableddau
- O leiaf ddwy flynedd o brofiad o gynghori ar un neu fwy o'r canlynol: iechyd a llesiant; annibyniaeth; budd-daliadau; addysg a dysgu; cyflogaeth; meithrin cyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol; lleihau unigedd; gofal cymdeithasol; tai
- Profiad o ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd i alluogi a grymuso pobl ag anableddau i gyflawni eu nodau tuag at annibyniaeth.
Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd - hanfodol
- Dealltwriaeth o spina bifida a hydroceffalws a'r materion a'r heriau y mae'r bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn yn eu hwynebu
- Y gallu i weithio gyda phobl yn unigol ac i hwyluso a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau grŵp
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau TG gyda gwybodaeth dda o systemau a rhaglenni cyfrifiadurol (e.e. Word, Excel a PowerPoint) a'r defnydd o gronfeydd data
- Dull o weithio gyda phobl nad yw'n feirniadol
Profiad a Chymwysterau - dymunol
- Meddu ar gymhwyster mewn maes sy'n gysylltiedig ag iechyd, nyrsio, gofal cymdeithasol neu anabledd
- Profiad o weithio yn y trydydd sector gyda thâl neu heb dâl
Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd - dymunol
- Dealltwriaeth o'r rôl y mae cymorth gan gymheiriaid yn ei chwarae wrth wella gwasanaethau a chymorth i'r aelodau
- gYmwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a'i effeithiolrwydd wrth leihau unigedd cymdeithasol.
Yn gyfnewid am hyn, bydd Shine yn cynnig y canlynol i chi:
- Cyflog cystadleuol o £27,776 (Pro rata)
- Cyfraniad o 3% tuag at bensiwn
- 25 diwrnod o wyliau a gwyliau'r banc a chyfnod o wyliau ychwanegol yn ôl disgresiwn rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser)
- Cymorth i ddysgu a datblygu
- Y cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Lwfans band eang
- Gwyliau blynyddol ychwanegol oherwydd hyd gwasanaeth
Mae Shine yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a bydd yn cynnig gwarantu cyfweliadau os bydd ymgeisydd anabl yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.
Er mwyn gwneud cais, dylech gyflwyno eich CV a'ch datganiad i'w ategu, a ddylai nodi eich diddordeb ac egluro sut y gallwch fodloni meini prawf y rôl i recruitment@shinecharity.org.uk *Sylwer na chaiff ceisiadau heb ddatganiad ategol eu derbyn.
Dyddiad cau: 27 Tachwedd
Cyfweliadau: 4 Rhagfyr - rhithwir
Noder: mae gennym yr hawl i gyfweld ag ymgeiswyr addas cyn y dyddiad cau, ac felly rydym yn annog ceisiadau cyn gynted â phosibl.

